Cefnogi

Cefnogi Rhuglder 

Os yw eich prentis yn siarad Cymraeg yn rhugl, mae’n bwysig eu bod yn cael y cyfle i fanteisio ar sgil sy’n bwysig iddyn nhw ac i’r busnes.

Dylid annog a chefnogi prentisiaid dwyieithog i gwblhau eu prentisiaeth gan ddefnyddio cymaint o Gymraeg ag y maen nhw’n gyfforddus yn ei ddefnyddio. Yn ddelfrydol, hyd at 50% o'u fframwaith.

Mae llawer o ffyrdd y gallwch gefnogi siaradwr Cymraeg rhugl a hyd yn oed os ydych chi’n sefydliad Cymraeg yn barod, mae’n dal yn ddefnyddiol dod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi eich prentis.