Sgiliau Hanfodol
Mae pob fframwaith prentisiaeth yn cynnwys cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar lefel briodol.
Dyma nhw:
Cyfathrebu
Cymhwyso Rhif
Llythrennedd Digidol
Gall eich prentis gwblhau pob un o'r rhain yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad yw’r darparwr hyfforddiant yn gallu cynnig sgiliau hanfodol trwy gyfrwng y Gymraeg yna gellir cyfeirio eich dysgwr at hwb yr Urdd i gwblhau’r sgiliau hyn. Mae gan yr Urdd hefyd gyfoeth o adnoddau y gall y dysgwr eu defnyddio.