Cefnogi

Yr adolygiad

Mewn prentisiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd angen i’r darparwr dysgu gwblhau adolygiad o’r dysgu gyda’r prentis bob 61 diwrnod o leiaf. Yn aml iawn, bydd y darparwr yn cwblhau adolygiadau yn amlach na hynny – bob ryw 4 wythnos.

Mewn prentisiaeth ddwyieithog, dylai'r dysgwr a'r aseswr gwblhau'r adolygiadau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, neu'n ddwyieithog.

Gofynnir i chi ysgrifennu sylw ar yr adolygiad bob tro, os ydych ar gael. Efallai y byddai’n briodol ysgrifennu sylw’n ddwyieithog neu’n Gymraeg.

Os ydych yn fodlon i'r adolygiadau gael eu cwblhau yn Gymraeg, gallwch drafod y cynnwys gyda'ch prentis.

Os hoffech wneud sylwadau yn Gymraeg neu'n ddwyieithog, dyma rai syml y gallech eu defnyddio wrth roi adborth.

Cwblhau Adolygiadau