Cefnogi

Prentis-iaith

Gall eich darparwr prentisiaeth gynnwys cwrs o’r enw Prentis-iaith fel rhan o fframwaith y prentis.

Cwrs iaith pwrpasol ar gyfer prentisiaid yw Prentis-iaith sydd ar gael ar bedair lefel:

  • Ymwybyddiaeth
  • Dealltwriaeth
  • Hyder
  • Rhuglder

Bydd eich prentis yn cwblhau’r cwrs sydd fwyaf addas i’w lefel. Mae'n debyg y bydd prentis sydd am wella ei sgiliau yn cwblhau'r lefel Hyder.

Mae Prentis-iaith ar gael am ddim ar wefan Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg felly os nad yw’r prentis yn cwblhau’r cwrs gyda’u darparwr, gallech ei gynnwys fel rhan o’ch cyfnod sefydlu. Gallech hefyd ddefnyddio'r cwrs gyda gweithwyr eraill neu ei gwblhau eich hun.

Prentis-iaith a Cymraeg Gwaith

Mae cyrsiau Prentis-iaith a Cymraeg Gwaith ar gael i bob busnes Cymraeg felly maen nhw'n fan cychwyn da ar gyfer hyfforddiant Cymraeg ar bob lefel. I gael rhagor o hyfforddiant yn y Gymraeg gallech hefyd fanteisio ar y cynllun Cymraeg Gwaith rhad ac am ddim a gynigir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Prentis-iaith


Dysgu Cymraeg

Fideo Saesneg gyda isdeitlau Cymraeg.