Asesiadau
Yn ystod y Brentisiaeth, bydd disgwyl i'r dysgwr gwblhau nifer o asesiadau gwahanol. Gall y rhain gynnwys darnau o waith ysgrifenedig ac asesiadau llafar.
Dulliau asesu
Efallai y bydd eich prentis yn dewis cwblhau gwahanol asesiadau mewn ieithoedd gwahanol, hyd yn oed os yw’n siarad Cymraeg yn rhugl. Er enghraifft, efallai y bydd yn fwy hyderus wrth siarad Cymraeg nag wrth ysgrifennu yn Gymraeg ac felly gall gwblhau asesiadau drwy drafodaethau proffesiynol, sesiynau holi ac ateb ar lafar, asesiadau cerdded a siarad ac ati.
Ar y llaw arall, os yw’n fwy hyderus yn ei sgiliau ysgrifennu, efallai y bydd eisiau cwblhau aseiniadau ysgrifenedig.
Canlyniadau Dysgu
Efallai y bydd rhai canlyniadau dysgu yn haws i’r prentis mewn gwahanol ieithoedd. Er enghraifft, efallai y bydd cwblhau tasgau myfyrio yn haws yn ei iaith gyntaf ond efallai y bydd yn dewis dadansoddi neu werthuso yn yr iaith y mae fwyaf hyderus yn ei defnyddio.