Y CADU mewn prentisiaeth dwyieithog
Mewn prentisiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd angen i’r darparwr dysgu baratoi Cynllun Dysgu ac Asesiad Unigol gyda’r prentis ar ddechrau’r brentisiaeth. Yn ei hanfod, amlinelliad o’r cymhwyster yw’r cynllun hwn. Mae'n nodi'r holl gymwysterau y bydd y dysgwyr yn eu cwblhau a dylai egluro’n fanwl sut y bydd dysgu dwyieithog yn digwydd yn ystod y cymhwyster.
Mewn prentisiaeth ddwyieithog, gall y dysgwyr a'r aseswr gwblhau Cynllun Dysgu ac Asesiad Unigol yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.
Bydd gofyn i chi adolygu a llofnodi'r Cynllun Dysgu ac Asesiad Unigol er mwyn i chi allu sicrhau bod iaith y dysgu yn cyd-fynd â’ch disgwyliadau.
Cynllun Dysgu ac Asesiad Unigol
Gallwch drafod y Cynllun Dysgu ac Asesiad Unigol gyda'ch dysgwr i sicrhau eich bod yn hapus gyda phopeth cyn ei lofnodi.
