Beth yw prentisiaeth ddwyieithog?
Mae prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn gwaith ag elfen o astudio. Gallwch recriwtio prentis i rôl sydd eisoes yn bodoli neu i rôl newydd.
Mae cymhwyster prentisiaeth yn rhan o Fframwaith. Dyma’r cyfuniad o gymwysterau a sgiliau a fydd yn rhan o hyfforddiant y prentis.
Mae pob fframwaith yng Nghymru yn dilyn patrwm tebyg ac yn cynnwys:
Mewn prentisiaeth ddwyieithog, gall y prentis gwblhau ei fframwaith yn gyfan gwbl, neu unrhyw ran ohono, yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gallwch ddewis o blith fframweithiau ar draws ystod eang iawn o feysydd a rolau galwedigaethol.
Rhagor o wybodaeth
I gael gwybodaeth am Brentisiaethau yn gyffredinol, gallwch ddefnyddio pecyn cymorth prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gallwch hefyd fynegi diddordeb er mwyn cael rhagor o wybodaeth gan Busnes Cymru.