Archwilio

Uwchsgilio aelod o staff presennol

Nid yw prentisiaethau bob amser yn golygu recriwtio aelod newydd o staff. Maent hefyd yn ffordd werthfawr o uwchsgilio eich gweithlu presennol a gall fod yn ffordd effeithiol o feithrin hyder gweithiwr mewn defnyddio dwy iaith a datblygu ei set sgiliau galwedigaethol ar yr un pryd.

P’un a yw’r aelod o staff yn siaradwr Cymraeg rhugl neu angen ychydig o gefnogaeth i ddod yn hyderus, dyma gyfle delfrydol i’w cefnogi i feithrin yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddechrau defnyddio eu sgiliau iaith yn y gweithle.