Archwilio

Recriwtio prentis dwyieithog

Recriwtio
Mae recriwtio prentis dwyieithog yn gyfle i chi lenwi rôl weithredol a chynyddu dwyieithrwydd eich gweithlu mewn meysydd allweddol. Efallai y byddai'n ddefnyddiol ystyried hyn wrth nodi eich anghenion.

Unwaith y byddwch wedi penderfynu bod angen rôl benodol, y cam cyntaf yw ystyried a yw’r rôl yn addas ar gyfer prentis. Gallwch wneud hyn drwy edrych ar y llyfrgell fframwaith prentisiaethau neu gallwch drafod eich anghenion gyda darparwr prentisiaeth.

Llyfrgell Fframwaith Prentisiaethau (Saesneg yn unig)

Yna bydd angen i chi recriwtio'r person cywir ar gyfer y rôl. Bydd y darparwr hyfforddiant yn helpu gyda’r broses recriwtio ond efallai y byddwch yn awyddus i’w cefnogi drwy wneud rhywfaint o hysbysebu eich hun.

Creu eich hysbyseb

Pan fyddwch yn hysbysebu ar gyfer rôl ddwyieithog, mae'n arferol hysbysebu'n ddwyieithog.

Er y gallwch droi at raglenni cyfieithu peirianyddol fel Google neu Microsoft Translate, byddwch yn ymwybodol o'r peryglon wrth wneud hynny.

Gall defnyddio cyfieithydd proffesiynol roi tawelwch meddwl i chi bod eich hysbyseb recriwtio yn cael ei chyfieithu’n rhugl ac yn gywir.

Gallwch ddefnyddio cronfa ddata Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, y gymdeithas broffesiynol ar gyfer cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd, i ddod o hyd i gyfieithwyr Cymraeg Cronfa ddata cyfieithwyr Cymraeg Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Mae gwasanaeth Helo Blod Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfieithu a phrawf-ddarllen. Gall gyfieithu hyd at 500 gair y mis yn rhad ac am ddim felly mae'n ddelfrydol ar gyfer hysbysebion recriwtio byr.

Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth prawf-ddarllen a gwasanaethau eraill: helo blod

Gosod eich hysbyseb

Mae penderfynu ble i hysbysebu yn gallu gwneud tipyn o wahaniaeth wrth geisio recriwtio prentis dwyieithog.

Gallwch hysbysebu gyda Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru:

Y Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag.

Bydd safleoedd recriwtio adnabyddus fel Indeed yn sicrhau bod llawer o bobl yn gweld eich hysbyseb ond efallai y byddai'n werth gwneud yn siŵr bod eich hysbyseb swydd yn ymddangos ar rai safleoedd recriwtio Cymraeg hefyd.

Gwefannau recriwtio cyfrwng Cymraeg

Astudiaethau achos cyflogwyr

Gwyliwch y fideos isod gyda dau gyflogwr gwahanol o Gymru, un o’r diwydiant plymio ac un o’r diwydiant ffilm a theledu, yn rhannu gwybodaeth am recriwtio prentisiaid dwyieithog.

Arwel Sharp, Plymwaith a Gwresogi Sharp

Sue Jeffries, Sgil Cymru