Cofnod Dysgu Dwyieithog ar y Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LP88, LA26)
Efallai y byddwch yn clywed sôn am LA26 ac LP88 wrth drafod prentisiaethau dwyieithog. Dyma’r codau sy’n dynodi meysydd yng nghronfa ddata prentisiaethau Llywodraeth Cymru sy’n cyfeirio at iaith y dysgu.
Mae LP88 yn mesur faint o Gymraeg, o ran canran, sydd yn fframwaith y dysgwr. Mae'n cynnwys pob agwedd ar y fframwaith gan gynnwys sgiliau hanfodol.
Mae LA26 yn defnyddio’r pum cod isod i gategoreiddio iaith y dysgu ar gyfer pob rhan o’r fframwaith:
E1 – Saesneg yn unig
B3 – Ychydig o Gymraeg
B2 – Cryn dipyn o Gymraeg
B1 – Y dysgu wedi’i gwblhau mewn cyd-destun dwyieithog
C1 – Y dysgu wedi’i gwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg.