Archwilio

Prentisiaethau dwyieithog ar waith

Mantais prentisiaethau dwyieithog yw y gellir eu teilwra i anghenion ieithyddol y sefydliad a’r prentis.

Gallwch weld sut y gallai hyn weithio’n ymarferol yn yr astudiaeth achos isod:

Astudiaeth Achos

Darparwr gofal plant yw Meithrinfa Mes Bychain. Yn ogystal â'r Gymraeg achlysurol y maen nhw’n ei defnyddio yn y feithrinfa bob dydd, mae rhai o'r rhieni a'r plant yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf neu’n ddysgwyr. Fel cyflogwr cynhwysol, mae Mes Bychain yn annog pob prentis i gwblhau eu prentisiaethau yn ddwyieithog.

Mae Nadia yn weithiwr gofal plant sydd newydd ddechrau gyda'r cwmni. Mynychodd ysgol cyfrwng Saesneg ond roedd yn mwynhau ei gwersi Cymraeg a chafodd radd B TGAU Cymraeg. Mae Nadia yn cwblhau cymhwyster Lefel 2 Ymarfer Gofal Plant ac eisiau defnyddio mwy o Gymraeg yn ei gwaith.

Ar ôl trafod gyda’i rheolwr a’i thiwtor, mae Nadia wedi penderfynu gwneud rhai o’i thasgau ysgrifenedig yn Gymraeg. Mae hi hefyd wedi penderfynu y byddai’n ddefnyddiol cwblhau ei chymhwyster Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu yn y Gymraeg hefyd.

Mae Rhys hefyd yn gweithio yn y Feithrinfa. Mae’n rheolwr cynorthwyol ac yn cwblhau lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mynychodd Rhys ysgol Gymraeg ac, ar ôl trafod gyda’i reolwr a’i diwtor, mae wedi penderfynu cwblhau pob asesiad trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol. Mae Rhys wedi penderfynu yr hoffai gwblhau ei gymhwyster Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu yn Saesneg er mwyn gwella ei sgiliau ysgrifennu’n Saesneg.