Cefnogi - Hyder

Dathlu eich ymrwymiad

Byddai’n drueni peidio rhoi sylw i’r holl gefnogaeth ac ymrwymiad yr ydych wedi’i roi i’ch prentisiaeth ddwyieithog.

Mae sawl ffordd i ddathlu eich ymrwymiad a’ch prentisiaid:

Gwobrau staff

Os ydych eisoes yn cydnabod cyfraniad eich staff drwy system wobrwyo, beth am ystyried ychwanegu dwyieithrwydd?

Y cyfryngau cymdeithasol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn lle perffaith i rannu straeon newyddion da. Fel hyn, gall eich cwsmeriaid, eich cyflenwyr, eich cefnogwyr a’ch dilynwyr weld eich ymrwymiad. Beth am ofyn i'ch prentis gyfrannu?

Cynllun Llysgenhadon y Coleg Cymraeg

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn recriwtio llysgenhadon Cymraeg bob blwyddyn. Mae hyn yn cydnabod gwaith eich prentis wrth gwblhau eu prentisiaeth yn ddwyieithog yn ogystal â rhoi cyfle iddynt rannu eu profiad gyda’r genhedlaeth nesaf o brentisiaid.

Cynnig Cymraeg

Cydnabyddiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg o’ch ymrwymiad i’r Gymraeg yw’r Cynnig Cymraeg ac mae’n ffynhonnell i gael cyngor ac arweiniad ar gyfer datblygu pellach. Dyma gyfle i ddangos i'ch defnyddwyr eich bod yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn barod i'w defnyddio.

Dod yn llysgennad

Gwrandewch ar XXX yn trafod pam y gwnaeth gais i fod yn llysgennad neu sut roedd yn teimlo ar ôl ennill