Cefnogi - Hyder

Hyfforddiant/Cyfnod Sefydlu

Mae hyfforddiant sefydlu yn ffordd bwysig iawn o egluro sut mae popeth yn gweithio a sicrhau bod eich prentis yn cychwyn ar delerau da.
Ar gyfer prentis dwyieithog, mae hwn yn gyfle da i gynnwys:

Manteision y Gymraeg

Gallech bwysleisio manteision y Gymraeg yn gyffredinol ac i’ch sefydliad – dywedwch wrth y dysgwr pam ydych chi’n awyddus iddo gwblhau’r brentisiaeth yn ddwyieithog.

Deunydd sefydlu dwyieithog

Os yw eich cwmni eisoes yn gwmni dwyieithog, bydd hyn yn hawdd ond os ydych yn datblygu fel cwmni dwyieithog neu ddim yn siarad Cymraeg, gallwch ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu neu weithio gydag aelod o staff sy'n siarad Cymraeg i ddarparu deunyddiau dwyieithog.

Prentis-iaith

(gweler isod)

Cyflwyniad i siaradwyr Cymraeg yn y cwmni

Efallai y gallech chi baru'r prentis â mentor iaith yn ogystal â mentor galwedigaethol.

Os nad ydych yn siŵr pwy yn y busnes sy’n ddwyieithog, efallai y byddai nawr yn gyfle da i wneud arolwg cyflym o sgiliau iaith y gweithlu.

Cefnogaeth ar gyfer hyfforddiant sefydlu