Rhyngweithio gyda chwsmer/cleient
Os yw eich busnes yn delio â chwsmeriaid wyneb yn wyneb, bydd angen i'ch prentis ryngweithio â nhw a chan fod 1 o bob 6 o siaradwyr yng Nghymru yn siarad Cymraeg, maen nhw'n debygol o ddod ar eu traws yn eithaf aml.
Mae cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg yn falch iawn o gael siarad ag aelod o staff yn Gymraeg, ac mae’n ffordd wych i fagu hyder.
Gall prentisiaid ac aelodau eraill o staff ddangos eu bod yn siarad Cymraeg drwy wisgo’r bathodyn ‘Cymraeg’ neu arddangos poster Iaith Gwaith.
Gallwch lawrlwytho posteri ac adnoddau digidol eraill ac archebu bathodynnau a chortynnau gwddf am ddim oddi ar wefan Comisiynydd y Gymraeg:
Os nad yw eich prentis yn gwbl hyderus eto, gellir cael bathodynnau Dysgu Cymraeg hefyd: