Magu Hyder
Os yw eich prentis yn magu hyder gyda’u Cymraeg, mae’n bwysig eu bod yn cael y cyfle i wneud y mwyaf o sgil bwysig iddyn nhw ac i’r busnes.
Dylid annog a chefnogi prentisiaid dwyieithog i gwblhau eu prentisiaeth gan ddefnyddio cymaint o Gymraeg ag y maen nhw’n gyfforddus yn ei ddefnyddio. Yn ddelfrydol, hyd at 50% o'u fframwaith.
Mae sawl ffordd y gallwch gefnogi prentis dwyieithog a hyd yn oed os ydych chi eisoes yn sefydliad Cymraeg, mae’n beth da dod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi eich prentis.