Darganfod

Cymraeg 2050

Dyma bolisi blaenllaw Llywodraeth Cymru sy’n anelu at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rhan o hyn yw “rhoi mwy o bwyslais ar y gweithle fel lleoliad strategol ar gyfer hybu a hwyluso cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg.” Mae prentisiaethau dwyieithog a ariennir yn un o’r ffyrdd y gall gweithleoedd symud tuag at y nod hwn.
Gall cyflogi prentisiaid dwyieithog neu gefnogi eich staff presennol i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg fod o fudd i’ch busnes a’ch helpu i sefyll allan mewn marchnad gynyddol gystadleuol. Gall prentis dwyieithog eich helpu i ddatblygu eich cynnig dwyieithog gan sicrhau eich bod yn gallu darparu gwasanaeth sy’n diwallu anghenion eich holl gwsmeriaid, ble bynnag y bônt yng Nghymru.