Darganfod

Beth sy'n gwneud prentis dwyieithog yn wahanol?

Mae prentisiaid dwyieithog yn cwblhau eu prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Byddan nhw’n cael eu cefnogi gan asesydd dwyieithog ac yn cwblhau cymaint neu gyn lleied o'u hasesiadau ag y maen nhw’n dymuno yn Gymraeg/dwyieithog. Efallai y byddan nhw’n cwblhau asesiadau ffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn fwy anffurfiol yn y gweithle. Beth bynnag yw’r ffurf, y peth pwysig yw y bydd sgiliau Cymraeg eich prentis yn datblygu, gan fod o fudd i’ch busnes ar yr un pryd. 
Bathodyn ‘rwy’n siarad cymraeg’